8 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Ti a dy feibion sydd i fod yn gyfrifol bob amser am yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dw i'n rhoi dy siâr di o offrymau pobl Israel i ti a dy feibion.
9 Byddi di'n cael y rhannau hynny o'r offrymau sydd ddim yn cael eu llosgi – eu hoffrymau nhw o rawn a'r offrwm puro a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r rhain i gael eu rhoi o'r neilltu i ti a dy feibion.
10 Mae i'w fwyta fel offrwm cysegredig gan y dynion. Mae wedi ei gysegru i chi ei fwyta.
11 Chi sydd i gael yr offrwm sy'n cael ei chwifio hefyd. Mae hwn bob amser i gael ei fwyta gan y teulu i gyd, yn ddynion a merched. Mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael ei fwyta.
12 A dw i'n rhoi eu rhoddion nhw o ffrwyth cyntaf y cnydau i chi hefyd – yr olew olewydd gorau, y sudd grawnwin gorau a'r gorau o'r grawn.
13 A'r ffrwythau aeddfed cyntaf maen nhw'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD – chi piau nhw, ac mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael eu bwyta.
14 Chi sy'n cael popeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel.