17 “‘A dyma sut mae puro rhywun sy'n aflan: Rhaid cymryd peth o ludw yr heffer gafodd ei llosgi i symud pechodau, a thywallt dŵr glân croyw drostyn nhw mewn llestr.
18 Wedyn mae rhywun sydd ddim yn aflan i drochi brigau isop yn y dŵr, ac yna ei daenellu ar y babell a'r dodrefn i gyd, ac ar y bobl oedd yno ar y pryd. A'r un fath gyda rhywun sydd wedi cyffwrdd asgwrn dynol, neu gorff marw neu fedd.
19 Rhaid gwneud hyn ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i'r rhai oedd yn aflan olchi eu dillad ac ymolchi mewn dŵr. Byddan nhw'n aflan am weddill y dydd.
20 Ond os ydy rhywun yn aflan a ddim yn puro ei hun, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel, am ei fod wedi llygru cysegr yr ARGLWYDD. Gafodd dŵr y puro ddim ei daenellu arno, felly bydd yn dal yn aflan.
21 “‘A dyma fydd y drefn bob amser: Rhaid i'r un sy'n taenellu dŵr y puro olchi ei ddillad. Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd dŵr y puro yn aflan am weddill y dydd.
22 Bydd beth bynnag mae'r person sy'n aflan yn ei gyffwrdd yn aflan hefyd, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd y peth hwnnw yn aflan am weddill y dydd.’”