2 “A dyma reol arall mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei chadw: ‘Dywed wrth bobl Israel am ddod â heffer goch sydd â dim byd o'i le arni – anifail heb nam corfforol ac sydd erioed wedi gweithio gyda iau.
3 Rhaid rhoi'r heffer i Eleasar yr offeiriad, a bydd yn cael ei chymryd allan o'r gwersyll a'i lladd o'i flaen e.
4 Yna mae Eleasar i gymryd peth o waed yr heffer, a'i daenellu gyda'i fys saith gwaith i gyfeiriad Pabell Presenoldeb Duw.
5 Wedyn mae'r heffer i gael ei llosgi o'i flaen – y croen, cnawd, gwaed, a'r coluddion i gyd.
6 Yna rhaid i'r offeiriad gymryd pren cedrwydd, isop, ac edau goch a'u taflu nhw i'r tân lle mae'r heffer yn llosgi.
7 Wedyn rhaid i'r offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
8 A rhaid i'r dyn sy'n llosgi'r heffer olchi ei ddillad hefyd, ac ymolchi mewn dŵr. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd.