4 Yna mae Eleasar i gymryd peth o waed yr heffer, a'i daenellu gyda'i fys saith gwaith i gyfeiriad Pabell Presenoldeb Duw.
5 Wedyn mae'r heffer i gael ei llosgi o'i flaen – y croen, cnawd, gwaed, a'r coluddion i gyd.
6 Yna rhaid i'r offeiriad gymryd pren cedrwydd, isop, ac edau goch a'u taflu nhw i'r tân lle mae'r heffer yn llosgi.
7 Wedyn rhaid i'r offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
8 A rhaid i'r dyn sy'n llosgi'r heffer olchi ei ddillad hefyd, ac ymolchi mewn dŵr. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd.
9 “‘Yna rhaid i ddyn sydd ddim yn aflan gasglu lludw yr heffer goch, a'i osod mewn lle sy'n lân yn seremonïol tu allan i'r gwersyll. Mae'r lludw i'w gadw i bobl Israel ei ddefnyddio yn seremoni dŵr y puro. Mae'r seremoni yma ar gyfer symud pechodau.
10 Wedyn rhaid i'r un wnaeth gasglu'r lludw olchi ei ddillad. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd. Dyma fydd y drefn bob amser i bobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw.