1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:
2 Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas Pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu'r Tabernacl. Mae pawb i wersylla o dan fflag eu llwyth eu hunain.
3-9 Ar yr ochr ddwyreiniol bydd adrannau'r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Jwda Nachshon fab Aminadab 74,600 Issachar Nethanel fab Tswár 54,400 Sabulon Eliab fab Chelon 57,400 Cyfanswm: 186,400 Y milwyr ar ochr Jwda o'r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.
10-16 I'r de bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Reuben Elisur fab Shedeŵr 46,500 Simeon Shelwmiel fab Swrishadai 59,300 Gad Eliasaff fab Dewel 45,650 Cyfanswm: 151,450 Y milwyr yma ar ochr Reuben i'r gwersyll fydd yn ail i symud allan.