10 Dyma bobl Israel yn cychwyn yn eu blaenau eto, ac yn gwersylla yn Oboth.
11 Yna gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm yn yr anialwch i'r dwyrain o Moab.
12 Yna mynd yn eu blaenau eto a gwersylla yn Wadi Sered.
13 Wedyn mynd yn eu blaenau a gwersylla yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o'r ardaloedd ble mae'r Amoriaid yn byw. Mae Arnon ar ffin Moab, yn y canol rhwng Moab a'r Amoriaid.
14 Mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn cyfeirio at y lle fel yma:“Tref Waheb yn Swffa, a wadïau Arnon,
15 a llethrau'r ceunentydd sy'n ymestyn i Ar,ar y ffin gyda Moab.”
16 Teithio wedyn i Beër (sef ‛Y Ffynnon‛), lle dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla'r bobl at ei gilydd, a gwna i roi dŵr iddyn nhw.”