15 a llethrau'r ceunentydd sy'n ymestyn i Ar,ar y ffin gyda Moab.”
16 Teithio wedyn i Beër (sef ‛Y Ffynnon‛), lle dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla'r bobl at ei gilydd, a gwna i roi dŵr iddyn nhw.”
17 Yna dyma bobl Israel yn canu'r gân yma,“Ffrydia ffynnon! Canwch iddi!
18 Ffynnon agorodd tywysogion,wedi ei chloddio gyda theyrnwialennaua ffyn yr arweinwyr.”A dyma nhw'n teithio o'r anialwch i Mattana.
19 Yna ymlaen i Nachaliel, yna Bamoth,
20 ac yna'r dyffryn ar dir Moab, lle mae copa Pisga yn edrych dros yr anialwch.
21 Dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, i ofyn iddo: