16 Teithio wedyn i Beër (sef ‛Y Ffynnon‛), lle dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla'r bobl at ei gilydd, a gwna i roi dŵr iddyn nhw.”
17 Yna dyma bobl Israel yn canu'r gân yma,“Ffrydia ffynnon! Canwch iddi!
18 Ffynnon agorodd tywysogion,wedi ei chloddio gyda theyrnwialennaua ffyn yr arweinwyr.”A dyma nhw'n teithio o'r anialwch i Mattana.
19 Yna ymlaen i Nachaliel, yna Bamoth,
20 ac yna'r dyffryn ar dir Moab, lle mae copa Pisga yn edrych dros yr anialwch.
21 Dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, i ofyn iddo:
22 “Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n cadw ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.”