17 Yna dyma bobl Israel yn canu'r gân yma,“Ffrydia ffynnon! Canwch iddi!
18 Ffynnon agorodd tywysogion,wedi ei chloddio gyda theyrnwialennaua ffyn yr arweinwyr.”A dyma nhw'n teithio o'r anialwch i Mattana.
19 Yna ymlaen i Nachaliel, yna Bamoth,
20 ac yna'r dyffryn ar dir Moab, lle mae copa Pisga yn edrych dros yr anialwch.
21 Dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, i ofyn iddo:
22 “Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n cadw ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.”
23 Ond gwrthododd Sihon adael i bobl Israel groesi ei dir. Casglodd ei fyddin at ei gilydd, ac ymosod ar Israel yn Iahats yn yr anialwch.