27 Dyna pam mae'r baledwyr yn dweud,“Dewch i Cheshbon, dinas Sihon,i'w hadfer a'i hailadeiladu.
28 Roedd tân yn llosgi yn Cheshbon –fflamau o dref y Brenin Sihon.Mae wedi llosgi Ar yn Moabac arweinwyr ucheldir Arnon.
29 Mae hi ar ben arnat ti, Moab!Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi'ch difa.Mae eich meibion yn ffoaduriaid,a'ch merched wedi eu cymryd yn gaethion,gan Sihon, brenin yr Amoriaid.
30 Dŷn ni wedi eu difa nhw'n llwyro Cheshbon yr holl ffordd i Dibon.Dŷn ni wedi eu taro nhw i lawryr holl ffordd i Noffa a Medeba.”
31 Felly roedd pobl Israel yn byw yng ngwlad yr Amoriaid.
32 Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhw'n dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno.
33 Wedyn dyma nhw'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei.