29 Mae hi ar ben arnat ti, Moab!Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi'ch difa.Mae eich meibion yn ffoaduriaid,a'ch merched wedi eu cymryd yn gaethion,gan Sihon, brenin yr Amoriaid.
30 Dŷn ni wedi eu difa nhw'n llwyro Cheshbon yr holl ffordd i Dibon.Dŷn ni wedi eu taro nhw i lawryr holl ffordd i Noffa a Medeba.”
31 Felly roedd pobl Israel yn byw yng ngwlad yr Amoriaid.
32 Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhw'n dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno.
33 Wedyn dyma nhw'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei.
34 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.”
35 Felly dyma Israel yn ennill y frwydr yn erbyn Og a'i feibion a'i fyddin. Cawson nhw i gyd eu lladd. A dyma Israel yn cymryd y tir.