31 Felly roedd pobl Israel yn byw yng ngwlad yr Amoriaid.
32 Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhw'n dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno.
33 Wedyn dyma nhw'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei.
34 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.”
35 Felly dyma Israel yn ennill y frwydr yn erbyn Og a'i feibion a'i fyddin. Cawson nhw i gyd eu lladd. A dyma Israel yn cymryd y tir.