1 A dyma Balaam yn dweud wrth y brenin Balac, “Adeilada saith allor yma, a paratoi saith tarw a saith hwrdd i'w haberthu.”
2 Dyma Balac yn gwneud hynny, a dyma'r ddau ohonyn nhw yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o'r allorau.
3 Yna dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy'n cael eu llosgi. Dw i'n mynd i weld os ydy'r ARGLWYDD am ymateb. Bydda i'n rhannu gyda ti beth bynnag fydd e'n ddweud wrtho i.” A dyma Balaam yn mynd i ben bryn anial.
4 A dyma Duw yn dod ato. A dyma Balaam yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi codi saith allor, ac wedi aberthu tarw a hwrdd ar bob un ohonyn nhw.”
5 A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Balaam, “Dos yn ôl at Balac a rhoi'r neges yma iddo.”
6 Pan aeth Balaam yn ôl roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll yno wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi.
7 A dyma'r neges roddodd Balaam iddo:“Daeth Balac â fi yma o Aram;daeth brenin Moab a fi o fynyddoedd y dwyrain:‘Tyrd i felltithio Jacob i mi,’ meddai;‘tyrd i gondemnio Israel!’