12 A dyma Balaam yn ateb, “Rhaid i mi fod yn ofalus fy mod i ddim ond yn dweud beth mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i mi.”
13 Felly dyma Balac yn dweud wrtho. “Tyrd i rywle arall i edrych arnyn nhw. Fyddi di ddim ond yn gweld rhai ohonyn nhw. Melltithia'r rheiny i mi.”
14 Felly dyma Balac yn mynd â Balaam i Gae Soffim (sef ‛Cae'r Gwylwyr‛) ar ben Mynydd Pisga. A dyma fe'n codi saith allor yno, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un.
15 Dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy'n cael eu llosgi, tra dw i'n mynd i gyfarfod yr ARGLWYDD draw acw.”
16 A dyma'r ARGLWYDD yn cyfarfod gyda Balaam, ac yn rhoi neges iddo ei rhannu gyda Balac.
17 Pan ddaeth Balaam ato, roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. A dyma Balac yn gofyn iddo, “Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?”
18 A dyma'r neges roddodd Balaam iddo,“Saf ar dy draed, Balac, a gwrando.Gwranda'n ofalus, fab Sippor: