19 Nid dyn sy'n dweud celwydd ydy Duw.Dydy e ddim yn berson dynol sy'n newid ei feddwl.Ydy e'n dweud, a ddim yn gwneud?Ydy e'n addo, a ddim yn cyflawni? Na!
20 Mae e wedi dweud wrtho i am fendithio;Mae e wedi bendithio, a dw i ddim yn gallu newid hynny.
21 Dydy e'n gweld dim drwg yn Jacob;nac yn gweld dim o'i le ar Israel.Mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda nhw;mae e wedi ei gyhoeddi yn frenin arnyn nhw.
22 Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft;mae e'n gryf fel ych gwyllt.
23 Does dim swyn yn gwneud drwg i Jacob,na dewiniaeth yn erbyn Israel.Rhaid dweud am Jacob ac Israel,‘Duw sydd wedi gwneud hyn!’
24 Bydd y bobl yn codi fel llewes,ac yn torsythu fel llew.Fyddan nhw ddim yn gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth,ac yfed gwaed y lladdfa.”
25 A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Paid â'i melltithio nhw o gwbl, a paid â'i bendithio chwaith.”