27 Yna dyma'r brenin Balac yn dweud wrth Balaam, “Tyrd, gad i mi fynd â ti i rywle arall. Falle y bydd Duw yn gadael i ti eu melltithio nhw o'r fan honno.”
28 A dyma Balac yn mynd â Balaam i ben Mynydd Peor, sy'n edrych dros yr anialwch.
29 A dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Adeilada saith allor i mi yma, a paratoi saith tarw a saith hwrdd i'w haberthu.”
30 Dyma'r brenin Balac yn gwneud hynny, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o'r allorau.