4 A dyma Duw yn dod ato. A dyma Balaam yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi codi saith allor, ac wedi aberthu tarw a hwrdd ar bob un ohonyn nhw.”
5 A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Balaam, “Dos yn ôl at Balac a rhoi'r neges yma iddo.”
6 Pan aeth Balaam yn ôl roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll yno wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi.
7 A dyma'r neges roddodd Balaam iddo:“Daeth Balac â fi yma o Aram;daeth brenin Moab a fi o fynyddoedd y dwyrain:‘Tyrd i felltithio Jacob i mi,’ meddai;‘tyrd i gondemnio Israel!’
8 Ond sut alla i felltithio pan mae Duw ddim yn gwneud?Sut alla i gondemnio'r rhai dydy'r ARGLWYDD ddim am eu condemnio?
9 Dw i'n eu gweld nhw o ben y creigiau.Dw i'n eu gwylio nhw o ben y bryniau.Maen nhw'n bobl unigryw,yn wahanol i'r gwledydd eraill.
10 Mae Jacob fel llwch – pwy all eu cyfrif?Oes rhywun yn gallu cyfrif eu chwarter nhw?Dw i am farw fel un wnaeth y peth iawn.Dw i am i'r diwedd i mi fod fel eu diwedd nhw.”