1 Erbyn hyn roedd Balaam yn gweld fod yr ARGLWYDD am fendithio Israel. Felly wnaeth e ddim mynd ati i ddewino fel o'r blaen, dim ond mynd yn syth i edrych allan dros yr anialwch.
2 Pan edrychodd dyma fe'n gweld Israel wedi gwersylla bob yn llwyth. A dyma Ysbryd Duw yn dod arno.
3 A dyma fe'n cyhoeddi'r neges yma:“Dyma neges Balaam fab Beor;proffwydoliaeth y dyn sy'n gweld popeth yn glir.
4 Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad,ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo.Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau:
5 Mae dy bebyll di mor hardd, Jacob;ie, dy wersylloedd, O Israel.
6 Maen nhw fel rhesi o balmwydd yn ymestyn i'r pellter,ac fel gerddi ar lan afon.Fel perlysiau wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD,neu goed cedrwydd ar lan y dŵr.