18 Bydd yn concro Edom hefyd;fe fydd piau mynyddoedd Seir.Bydd Israel yn mynd yn ei blaen yn ddewr.
19 Bydd brenin yn codi yn Jacob,ac yn dinistrio pawb sydd ar ôl yn Ir.’”
20 Yna dyma Balaam yn edrych ar Amalec ac yn cyhoeddi'r neges yma:“Amalec ydy'r gryfaf o'r gwledydd i gyd,ond dinistr llwyr fydd ei dynged.”
21 Yna edrychodd ar y Ceneaid a chyhoeddi'r neges yma:“Ti'n byw mewn lle sydd mor saff;mae dy nyth yn uchel ar y graig.
22 Ond bydd Cain yn cael ei lyncu,pan fydd Asyria'n ei gymryd yn gaeth.”
23 Yna dyma Balaam yn rhoi'r neges yma:“Ond pwy fydd yn cael byw pan fydd Duw yn gwneud hyn?
24 Bydd llongau'n dod o arfordir Cyprus,ac yn ymosod ar Asyria ac Eber.Ond byddan nhw hefyd yn cael eu dinistrio'n llwyr.”