20 Yna dyma Balaam yn edrych ar Amalec ac yn cyhoeddi'r neges yma:“Amalec ydy'r gryfaf o'r gwledydd i gyd,ond dinistr llwyr fydd ei dynged.”
21 Yna edrychodd ar y Ceneaid a chyhoeddi'r neges yma:“Ti'n byw mewn lle sydd mor saff;mae dy nyth yn uchel ar y graig.
22 Ond bydd Cain yn cael ei lyncu,pan fydd Asyria'n ei gymryd yn gaeth.”
23 Yna dyma Balaam yn rhoi'r neges yma:“Ond pwy fydd yn cael byw pan fydd Duw yn gwneud hyn?
24 Bydd llongau'n dod o arfordir Cyprus,ac yn ymosod ar Asyria ac Eber.Ond byddan nhw hefyd yn cael eu dinistrio'n llwyr.”
25 Yna dyma Balaam yn mynd adre. A dyma'r brenin Balac yn mynd i ffwrdd hefyd.