6 Maen nhw fel rhesi o balmwydd yn ymestyn i'r pellter,ac fel gerddi ar lan afon.Fel perlysiau wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD,neu goed cedrwydd ar lan y dŵr.
7 Bydd ganddyn nhw ddigon o ddŵr i ddyfrio'r tir,a bydd eu disgynyddion fel dyfroedd di-baid.Bydd eu brenin yn fwy nac Agag,a'i deyrnas wedi ei dyrchafu'n uchel.
8 Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft;mae e'n gryf fel ych gwyllt.Byddan nhw'n dinistrio gwledydd eu gelynion –yn torri eu hesgyrn yn ddarnau,a'u saethu gyda saethau.
9 Mae Israel yn gorffwys fel llew,neu lewes – pwy sy'n meiddio tarfu arno?Bydd y sawl sy'n dy fendithio yn profi bendith,a'r sawl sy'n dy felltithio dan felltith!”
10 Roedd y brenin Balac yn wyllt gynddeiriog gyda Balaam. Curodd ei ddwylo'n wawdlyd, a dweud wrtho, “Gwnes i dy alw di yma i felltithio fy ngelynion i! A dyma ti'n gwneud dim byd ond bendithio! Ti wedi eu bendithio nhw dair gwaith!
11 Well i ti ddianc am adre! Dos! Ro'n i wedi dweud y byddwn i'n dy dalu di'n hael, ond gei di ddim byd! Ar yr ARGLWYDD mae'r bai am hynny!”
12 A dyma Balaam yn ateb, “Ro'n i wedi dweud wrth dy swyddogion di,