1 Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim dyma'r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab.
2 Roedd y merched wedi eu gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau.
3 Cyn pen dim roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel,
4 a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr ARGLWYDD ganol dydd, er mwyn i'r ARGLWYDD beidio bod mor wyllt gydag Israel.”
5 Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.”
6 Wrth iddo ddweud hyn, a pobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid i'r gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd.