1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Rho'r gorchymyn yma i bobl Israel: ‘Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich offrymau i mi ar yr adegau iawn. Mae'r offrymau yma sy'n cael eu llosgi ar yr allor fel bwyd sy'n arogli'n hyfryd i mi.’
3 Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD: Dau oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw i'w cyflwyno'n rheolaidd fel offrwm i'w losgi'n llwyr.
4 Rhaid i'r oen cyntaf gael ei gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi.
5 Mae pob oen i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd.
6 Mae'r offrwm rheolaidd yma i gael ei losgi'n llwyr. Cafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai, yn offrwm fyddai'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.