4 Rhaid i'r oen cyntaf gael ei gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi.
5 Mae pob oen i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd.
6 Mae'r offrwm rheolaidd yma i gael ei losgi'n llwyr. Cafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai, yn offrwm fyddai'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
7 Ac mae offrwm o ddiod i fynd gydag e – litr am bob oen. Mae'r cwrw haidd yma i gael ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr.
8 “‘Yna mae'r ail oen i gael ei offrymu pan mae'n dechrau nosi. Mae'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i fynd gydag e. Mae hwn eto i gael ei losgi'n llwyr, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
9 “‘Yna ar y Saboth: Dau oen blwydd oed arall heb ddim byd o'i le arnyn nhw, a dau gilogram o'r blawd gwenith gorau yn offrwm o rawn, wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gydag e hefyd.
10 Mae'r offrwm yma i gael ei losgi bob Saboth, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sydd i gael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.