1 “‘Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Dyma'r diwrnod pan fyddwch chi'n canu'r utgyrn.
2 Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw.
3 Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,
4 ac un cilogram ar gyfer pob oen.
5 Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.