17 “‘Yna ar yr ail ddiwrnod: un deg dau darw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw.
18 A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn.
19 Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw.
20 “‘Ar y trydydd diwrnod: un deg un tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw.
21 A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn.
22 Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw.
23 “‘Ar y pedwerydd diwrnod: deg tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw.