3 Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,
4 ac un cilogram ar gyfer pob oen.
5 Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.
6 Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrwm sy'n cael ei losgi bob mis, a'r offrwm dyddiol gyda'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Mae'r offrymau yma sydd wedi eu trefnu i gyd yn cael eu llosgi i'r ARGLWYDD, ac yn arogli'n hyfryd iddo.
7 “‘Ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod. A peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
8 Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm fydd yn arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw.
9 Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,