30 A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn.
31 Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw.
32 “‘Ar y seithfed diwrnod: saith tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw.
33 A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn.
34 Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw.
35 “‘Ar yr wythfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
36 Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: un tarw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw.