6 Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrwm sy'n cael ei losgi bob mis, a'r offrwm dyddiol gyda'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Mae'r offrymau yma sydd wedi eu trefnu i gyd yn cael eu llosgi i'r ARGLWYDD, ac yn arogli'n hyfryd iddo.
7 “‘Ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod. A peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
8 Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm fydd yn arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw.
9 Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,
10 ac un cilogram ar gyfer pob oen.
11 Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw a'r offrwm dyddiol sy'n cael ei losgi gyda'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw.
12 “‘Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis dych chi i ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.