1 Dyma hanes teulu Aaron a Moses pan wnaeth yr ARGLWYDD siarad gyda Moses ar Fynydd Sinai:
2 Enwau meibion Aaron oedd Nadab (y mab hynaf), Abihw, Eleasar ac Ithamar.
3 Cawson nhw eu heneinio a'u cysegru i wasanaethu fel offeiriaid.
4 Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw yn anialwch Sinai wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD. Doedd ganddyn nhw ddim plant. Felly Eleasar ac Ithamar oedd yn gwasanaethu fel offeiriaid gyda'u tad Aaron.
5 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
6 “Tyrd â llwyth Lefi at Aaron, a'u rhoi nhw iddo fel ei helpwyr.
7 Byddan nhw'n gwasanaethu Aaron a'r bobl i gyd o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Nhw fydd yn gyfrifol am wneud yr holl waith yn y Tabernacl.