14 Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda Moses yn anialwch Sinai:
15 “Dw i eisiau i ti gyfri'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd estynedig a'i claniau – pob dyn, a phob bachgen sydd dros fis oed.”
16 Felly dyma Moses yn eu cyfri nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
17 Enwau meibion Lefi oedd Gershon, Cohath a Merari.
18 Enwau claniau meibion Gershon oedd Libni a Shimei.
19 Enwau claniau meibion Cohath oedd Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel.
20 Enwau claniau meibion Merari oedd Machli a Mwshi.Y rhain oedd teuluoedd Lefi yn ôl eu claniau.