17 Enwau meibion Lefi oedd Gershon, Cohath a Merari.
18 Enwau claniau meibion Gershon oedd Libni a Shimei.
19 Enwau claniau meibion Cohath oedd Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel.
20 Enwau claniau meibion Merari oedd Machli a Mwshi.Y rhain oedd teuluoedd Lefi yn ôl eu claniau.
21 Disgynyddion Gershon oedd claniau Libni a Simei –
22 sef 7,500 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed.
23 Roedd teuluoedd y Gershoniaid i wersylla tu ôl i'r Tabernacl, i'r gorllewin.