20 Enwau claniau meibion Merari oedd Machli a Mwshi.Y rhain oedd teuluoedd Lefi yn ôl eu claniau.
21 Disgynyddion Gershon oedd claniau Libni a Simei –
22 sef 7,500 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed.
23 Roedd teuluoedd y Gershoniaid i wersylla tu ôl i'r Tabernacl, i'r gorllewin.
24 Ac arweinydd y Gershoniaid oedd Eliasaff fab Laël.
25 Cyfrifoldeb y Gershoniaid oedd pabell y Tabernacl, y gorchudd, y sgrîn o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw,
26 llenni'r iard oedd o gwmpas y Tabernacl a'r allor, y sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard, y rhaffau, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.