28 sef 8,600 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr.
29 Roedd teuluoedd y Cohathiaid i wersylla i'r de o'r Tabernacl.
30 Ac arweinydd y Cohathiaid oedd Elitsaffan fab Wssiel.
31 Nhw oedd yn gyfrifol am yr Arch, y bwrdd, y menora (sef y stand i'r lampau), yr allorau, unrhyw offer oedd yn cael ei ddefnyddio yn y cysegr, y gorchudd mewnol, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.
32 Eleasar, mab Aaron oedd pennaeth arweinwyr y Lefiaid. Roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig i oruchwylio'r rhai oedd yn gyfrifol am y cysegr.
33 Disgynyddion Merari oedd claniau Machli a Mwshi –
34 sef 6,200 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed.