39 Nifer y Lefiaid i gyd, gafodd eu cyfri gan Moses ac Aaron, oedd 22,000 o ddynion a bechgyn dros un mis oed.
40 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gyfri pob un o'r Israeliaid sy'n fab hynaf, o un mis oed i fyny. A cofrestru enw pob un.
41 Mae'r Lefiaid i gael eu rhoi i mi yn lle meibion hynaf yr Israeliaid – cofia mai fi ydy'r ARGLWYDD. A fi piau anifeiliaid y Lefiaid hefyd, yn lle pob anifail cyntaf i gael ei eni i anifeiliaid pobl Israel.”
42 Felly dyma Moses yn cyfrif pob un o feibion hynaf yr Israeliaid, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
43 Y nifer gafodd eu cyfrif a'u cofrestru oedd 22,273.
44 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
45 “Cymer y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw. Fi fydd piau'r Lefiaid. Fi ydy'r ARGLWYDD.