43 Y nifer gafodd eu cyfrif a'u cofrestru oedd 22,273.
44 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
45 “Cymer y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw. Fi fydd piau'r Lefiaid. Fi ydy'r ARGLWYDD.
46 Mae nifer y meibion hynaf ddau gant saith deg tri yn fwy na nifer y Lefiaid. Rwyt i brynu rhyddid i'r dau gant saith deg tri
47 drwy gasglu pum darn arian am bob un ohonyn nhw. Dylid ei dalu gydag arian y cysegr, sef darnau arian sy'n pwyso dau ddeg gera yr un.
48 Rho'r arian yma i Aaron a'i feibion.”
49 Felly dyma Moses yn casglu'r arian i brynu'n rhydd y meibion hynaf oedd dros ben.