5 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
6 “Tyrd â llwyth Lefi at Aaron, a'u rhoi nhw iddo fel ei helpwyr.
7 Byddan nhw'n gwasanaethu Aaron a'r bobl i gyd o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Nhw fydd yn gyfrifol am wneud yr holl waith yn y Tabernacl.
8 Byddan nhw'n gofalu am holl offer Pabell Presenoldeb Duw, ac yn gwasanaethu yn y Tabernacl ar ran pobl Israel.
9 Rwyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion fel eu helpwyr. Maen nhw i weithio iddo fe a neb arall.
10 Aaron a'i feibion sydd i'w penodi'n offeiriaid. Os ydy unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb ydy marwolaeth.”
11 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: