9 Rwyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion fel eu helpwyr. Maen nhw i weithio iddo fe a neb arall.
10 Aaron a'i feibion sydd i'w penodi'n offeiriaid. Os ydy unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb ydy marwolaeth.”
11 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
12 “Dw i wedi cymryd y Lefiaid i mi fy hun, yn lle'r mab cyntaf i ddod allan o groth pob gwraig yn Israel. Fi piau'r Lefiaid,
13 am mai fi piau pob mab cyntaf. Ro'n i wedi cysegru pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni i mi fy hun, pan wnes i ladd y rhai cyntaf i gael eu geni yng ngwlad yr Aifft. Felly fi piau pob un cyntaf i gael ei eni. Fi ydy'r ARGLWYDD.”
14 Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda Moses yn anialwch Sinai:
15 “Dw i eisiau i ti gyfri'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd estynedig a'i claniau – pob dyn, a phob bachgen sydd dros fis oed.”