13 Felly mae ei gŵr yn gallu cadarnhau'r addewid mae'n ei wneud i ymwrthod â rhywbeth, neu'n gallu dweud yn wahanol.
14 Pan mae'r gŵr yn dweud dim am y peth am ddyddiau lawer, mae e'n cadarnhau'r addewid neu'r ymrwymiad mae wedi ei wneud. Mae'n ei gadarnhau am ei fod wedi dweud dim am y peth.
15 Os ydy e'n dweud yn wahanol beth amser ar ôl iddo glywed am y peth, fe fydd yn gyfrifol am ei phechod hi.”
16 Dyma'r rheolau roddodd yr ARGLWYDD i Moses am y drefn gyda dyn a'i wraig, neu dad a'i ferch ifanc sy'n dal i fyw gyda'r teulu.