9 “Os ydy gwraig weddw, neu wraig sydd wedi cael ysgariad yn gwneud addewid, rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.
10 Os gwnaeth hi'r adduned, neu osod ei hun dan lw pan oedd hi'n byw gyda'i gŵr
11 a'i gŵr yn clywed am y peth, ond yn dweud dim yn wahanol, bydd rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.
12 Ond os ydy ei gŵr hi yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Mae ei gŵr wedi dweud yn wahanol, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.
13 Felly mae ei gŵr yn gallu cadarnhau'r addewid mae'n ei wneud i ymwrthod â rhywbeth, neu'n gallu dweud yn wahanol.
14 Pan mae'r gŵr yn dweud dim am y peth am ddyddiau lawer, mae e'n cadarnhau'r addewid neu'r ymrwymiad mae wedi ei wneud. Mae'n ei gadarnhau am ei fod wedi dweud dim am y peth.
15 Os ydy e'n dweud yn wahanol beth amser ar ôl iddo glywed am y peth, fe fydd yn gyfrifol am ei phechod hi.”