1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dial ar bobl Midian am beth wnaethon nhw i bobl Israel. Ar ôl i ti wneud hynny byddi di'n mynd at dy hynafiaid sydd wedi marw.”
3 Felly dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dewiswch ddynion i fynd i ryfel yn erbyn Midian, ac i ddial arnyn nhw ar ran yr ARGLWYDD.
4 Rhaid anfon mil o ddynion o bob llwyth i'r frwydr.”
5 Felly dyma nhw'n dewis mil o ddynion o bob llwyth yn Israel – un deg dau mil o ddynion arfog yn barod i ymladd.
6 A dyma Moses yn eu hanfon nhw allan, gyda Phineas (mab Eleasar yr offeiriad) yn gofalu am y taclau o'r cysegr a'r utgyrn i alw'r fyddin.