11 Dyma nhw'n ysbeilio ac yn dwyn popeth, gan gynnwys y bobl a'r anifeiliaid i gyd.
12 A dyma nhw'n mynd â'r cwbl yn ôl at Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl bobl Israel oedd yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.
13 Aeth Moses ac Eleasar a'r arweinwyr eraill i gyfarfod y fyddin tu allan i'r gwersyll.
14 Ond dyma Moses yn gwylltio'n lân gyda swyddogion y fyddin – y capteiniaid ar unedau o fil a'r unedau o gant oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr.
15 “Pam ydych chi wedi cadw'r merched yn fyw?” meddai wrthyn nhw.
16 “Dyma'r union bobl wnaeth wrando ar Balaam, a gwneud i bobl Israel wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yn y digwyddiad yn Peor! A'r canlyniad oedd y pla ofnadwy wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD!
17 Felly lladdwch y bechgyn i gyd, a lladdwch bob gwraig sydd wedi cysgu gyda dyn.