18 Ond cewch gadw'n fyw y merched ifanc hynny sydd heb eto gael rhyw.”
19 “Pwy bynnag sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd corff marw, rhaid i chi aros tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod. A rhaid i chi a'r merched dych chi wedi eu cymryd yn gaeth fynd drwy'r ddefod o buro eich hunain ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod.
20 Rhaid i chi lanhau eich dillad i gyd, a popeth sydd wedi ei wneud o groen anifail, blew gafr neu bren.”
21 Yna dyma Eleasar yr offeiriad yn dweud wrth y dynion oedd wedi bod yn ymladd yn y frwydr, “Dyma reol roddodd yr ARGLWYDD orchymyn i Moses i ni ei chadw:
22 Mae popeth sydd wedi ei wneud o aur, arian, pres, haearn, tin neu blwm
23 (popeth sydd ddim yn llosgi) i gael ei buro drwy dân, a bydd yn lân yn seremonïol, ond rhaid iddo gael ei daenellu gyda dŵr y puro hefyd. Mae popeth fyddai'n llosgi yn y tân i gael ei buro gyda'r dŵr yn unig.
24 Yna rhaid i chi olchi eich dillad ar y seithfed diwrnod. Wedyn byddwch chi'n lân yn seremonïol, a gallwch ddod yn ôl i mewn i'r gwersyll.”