25 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
26 “Dw i eisiau i ti ac Eleasar yr offeiriad, a'r arweinwyr eraill, gyfri'r ysbail gafodd ei gasglu i gyd – yn ferched a phlant ac yn anifeiliaid.
27 Yna rhannu'r cwbl rhwng y dynion aeth i ymladd yn y frwydr, a gweddill pobl Israel.
28 Ond rhaid cymryd cyfran i'r ARGLWYDD o siâr y milwyr fuodd yn ymladd: Cyfran yr ARGLWYDD o'r caethion, y gwartheg, asynnod a defaid, fydd un o bob pum cant.
29 Mae hwn i'w gymryd o siâr y milwyr, a'i roi i Eleasar yr offeiriad i'w gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD.
30 Yna o'r hanner arall, sef siâr pobl Israel, rhaid cymryd un o bob hanner cant o'r caethion, y gwartheg, yr asynnod, a'r defaid. Un o bob hanner cant o'r anifeiliaid i gyd, i'w cyflwyno i'r Lefiaid sy'n gofalu am y Tabernacl i'r ARGLWYDD.”
31 Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.