3 Felly dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dewiswch ddynion i fynd i ryfel yn erbyn Midian, ac i ddial arnyn nhw ar ran yr ARGLWYDD.
4 Rhaid anfon mil o ddynion o bob llwyth i'r frwydr.”
5 Felly dyma nhw'n dewis mil o ddynion o bob llwyth yn Israel – un deg dau mil o ddynion arfog yn barod i ymladd.
6 A dyma Moses yn eu hanfon nhw allan, gyda Phineas (mab Eleasar yr offeiriad) yn gofalu am y taclau o'r cysegr a'r utgyrn i alw'r fyddin.
7 A dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn Midian, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma nhw'n lladd y dynion i gyd,
8 gan gynnwys pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba, a hefyd Balaam fab Beor.
9 Yna dyma fyddin Israel yn cymryd merched a phlant Midian yn gaeth. Dyma nhw hefyd yn cymryd eu gwartheg, defaid, a popeth arall o werth oddi arnyn nhw.