31 Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
32 A dyma swm yr ysbail roedd y dynion wedi ei gasglu:675,000 o ddefaid,
33 72,000 o wartheg,
34 61,000 o asynnod,
35 a 32,000 o ferched ifanc oedd erioed wedi cysgu gyda dyn.
36 Siâr y dynion oedd wedi mynd i ymladd yn y rhyfel oedd:337,500 o ddefaid
37 – 675 ohonyn nhw'n mynd i'r ARGLWYDD.