51 Dyma Moses ac Eleasar yn cymryd yr aur ganddyn nhw – pob math o dlysau cywrain.
52 Roedd yr aur i gyd, gafodd ei gyflwyno i'r ARGLWYDD gan y capteiniaid, yn pwyso bron ddau gan cilogram.
53 (Roedd pob un o'r dynion wedi cymryd peth o'r ysbail iddo'i hun.)
54 Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn derbyn yr aur gan y capteiniaid, ac yn mynd â'r cwbl i Babell Presenoldeb Duw i atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel.