2 Felly dyma nhw'n mynd at Moses, Eleasar yr offeiriad, a'r arweinwyr eraill. A dyma nhw'n dweud:
3-4 “Mae gynnon ni lot fawr o wartheg, ac mae'r tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi yn nwylo pobl Israel yn ddelfrydol i gadw gwartheg – ardaloedd Ataroth, Dibon, Iaser, Nimra, Cheshbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon.
5 Os ydyn ni wedi'ch plesio chi, plîs rhowch y tir yma i ni i'w etifeddu. Peidiwch mynd â ni ar draws yr Afon Iorddonen.”
6 A dyma Moses yn ateb pobl llwythau Gad a Reuben, “Ydy'n deg fod rhaid i bawb arall fynd i ryfel, tra dych chi'n aros yma?
7 Ydych chi'n trïo stopio gweddill pobl Israel rhag croesi drosodd i'r tir mae'r ARGLWYDD wedi ei roi iddyn nhw?
8 Dyma'n union beth wnaeth eich tadau chi yn Cadesh-barnea pan anfonais nhw i archwilio'r wlad.
9 Ar ôl mynd draw i ddyffryn Eshcol i weld y tir dyma nhw'n annog pobl Israel i beidio mynd mewn i'r wlad roedd yr ARGLWYDD yn ei roi iddyn nhw.