30 Ond os byddan nhw'n gwrthod croesi drosodd i ymladd gyda chi, rhaid iddyn nhw dderbyn tir yn Canaan, fel pawb arall.”
31 A dyma bobl Gad a Reuben yn dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
32 Byddwn ni'n croesi drosodd i wlad Canaan yn barod i ymladd dros yr ARGLWYDD, a byddwn ni'n cael y tir sydd yr ochr yma i'r Iorddonen.”
33 Felly dyma Moses yn rhoi'r tir yma i lwythau Gad a Reuben, a hanner llwyth Manasse fab Joseff: tiriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, a tiriogaeth Og, brenin Bashan. Cawson nhw'r tir i gyd gyda'r trefi a'r tiroedd o'u cwmpas.
34 Dyma lwyth Gad yn ailadeiladu Dibon, Ataroth, Aroer,
35 Atroth-shoffan, Iaser, Iogbeha,
36 Beth-nimra a Beth-haran yn drefi caerog amddiffynnol, gyda corlannau i'w hanifeiliaid.