37 Dyma lwyth Reuben yn ailadeiladu Cheshbon, Eleale, Ciriathaim,
38 Nebo, Baal-meon a Sibma, a rhoi enwau newydd i bob un.
39 A dyma feibion Machir fab Manasse yn mynd i dref Gilead, a'i chymryd oddi ar yr Amoriaid oedd yn byw yno.
40 A dyma Moses yn rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir fab Manasse, a dyma nhw'n symud i fyw yno.
41 Wedyn dyma ddisgynyddion Jair fab Manasse yn dal nifer o'r pentrefi bach o gwmpas Gilead, a'i galw nhw yn Hafoth-jair (sef ‛Pentrefi Jair‛).
42 A dyma Nobach yn dal tref Cenath a'r pentrefi o'i chwmpas, a rhoi ei enw ei hun, Nobach, i'r ardal.